Memories by Tracey Aston
May 9, 2011
Tennis at Tregib – May 2011
May 22, 2011

Memories by Edward Davies

As part of the Schools centenary celebrations in 2010 a book was published, this included the memories written by many of the schools teachers.  Over the following weeks we will be adding excerpts from these to the website.

Dechreuais ddysgu yn Ysgol Rhys Prichard ym mis Medi 2001. Anghofia i fyth fy wythnos gyntaf yn dysgu yn Ysgol Rhys Prichard gan mai dyma’r adeg ddigwyddodd un o drychinebau mwyaf brawychus y byd, trychineb hunllefus Medi 11eg yn America. Cofiaf drafod y digwyddiadau erchyll gyda’r plant.

Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn yr ysgol, caban oedd y dosbarth ar waelod y buarth yn yr union safle ble mae dosbarth Miss Aston wedi ei leoli yn yr estyniad newydd. Rwyf bellach wedi bod yn y prif adeilad ers wyth mlynedd ac yn Nosbarth 7. Rwyf yn dysgu blynyddoedd Ffrwd A blynddoedd pump a chwech ac wedi gwneud ers i mi ddechrau yn yr ysgol. Rwyf hefyd yn cael profiad o ddysgu blwyddyn pedwar drwy fod yn rhan o’r tîm sy’n dysgu Mathemateg a Saesneg.

Un o fy hoff bethau yw chwaraeon ac rwyf wrth fy modd yn ei dysgu i’r plant. Credaf yn gryf mai’r cymryd rhan sy’n bwysig nid yr ennill. Mwynhaf weld y plant yn cymysgu’n dda gyda’i gilydd yn y gwersi chwaraeon. Wedi dweud hyn, rydym wedi bod yn ffodus iawn o’r talent ifanc yn yr ysgol ac ar hyd y blynyddoedd rydym wedi cael cryn lwyddiant boed yn Rygbi, Pêl droed, Pêl rwyd, athletau neu denis. Rwy’n hoff hefyd o fynd a phlant i Langrannog a Phentywyn lle maent yn cael cyfloedd arbennig i wneud amryw o weithgareddau cyffrous.

Mae’n anodd credu fy mod wedi bod yn yr ysgol am naw mlynedd. Rwyf wedi mwynhau bob munud ac un peth y gellir dweud am y swydd hon yw nad oes yr un diwrnod yr un peth.  Rwyf wedi dysgu llawer o blant sy’n gymeriadau, ond un peth sy’n rhoi boddhad i mi yw eu gweld ar y stryd ymhen rhai blynyddoedd, wedi iddynt fynd i’r Ysgol Uwchradd, a phob plentyn yn fy nghyfarch yn ei ffordd fach ei hun..

Hoffwn ddymuno Camlwyddiant Hapus i Ysgol Rhys Prichard a dymuno pob lwc am  y ganrif  nesaf.