Llangrannog 2011
May 22, 2011
Dyfed Primary Schools Athletics Championships 2011
May 23, 2011

Atgofion Catrin Jones

As part of the Schools centenary celebrations in 2010 a book was published, this included the memories written by many of the schools teachers.  Over the following weeks we will be adding excerpts from these to the website.

Does dim amheuaeth fod Hydref 1af 1984 yn un o ddiwrnodau pwysicaf fy mywyd – dyma pryd y dechreuodd fy ngyrfa dysgu yn Llanymddyfri. Cyfnod mamolaeth oedd y swydd honno oedd i barhau am ychydig fisoedd, a dyma fi yn dal yma ar ôl pum mlynedd ar hugain! Mae gennyf lawer o atgofion hyfryd am y cyfnod hynny  ac ambell i ddigwyddiad yn aros yn y cof.

Mr Huw Davies oedd y prifathro yn ystod fy nhymor cyntaf ac yna ym mis Ionawr 1985 roedd Mr John Davies i ddechrau ar ei swydd fel prifathro newydd yr ysgol. Ar ei ddiwrnod cyntaf yn ei swydd, fe ddaeth yr eira.  Rwy’n cofio’n glir ein sgwrs gyntaf erioed oedd ar y ffôn  a finne yn ymddiheuro na allen ni ddod i’r ysgol oherwydd yr eira ac ynte wedi cyrraedd Llanymddyfri o Abertawe!!   Bu’r wythnosau cyntaf yn ei yrfa fel prifathro yn rai helbulus, wedi i’r eira ddiflannu torrodd y boiler gan adael yr ysgol yn ddychrynllyd o oer. Doedd dim amdani ond dysgu Blwyddyn 5 a 6 yn unig, allan yn y cabanau ar yr iard tan i’r broblem gael ei datrys. Mi fydden ni yn cymryd ein tro i ddysgu’r plant.

Ar ddiwedd tymor yr haf y flwyddyn honno cafodd aelodau’r dosbarth gynnig am y tro cyntaf i fynd i wersyll haf yr Urdd yn Llangrannog. Pan dderbyniodd y mwyafrif llethol y gwahoddiad mi wnaeth John Davies roi cyfle i finne fynd gyda hwy.  Gan nad oedd neb yn cael ei galw yn Miss na Mr yn y gwersyll hwnnw, diflannodd y teitl Miss Jones, a Catrin fues i i’r plant am wythnos gyfan! Yn ystod yr wythnos gofynnwyd i ni gyflwyno Gwasanaeth i weddill y gwersyll. Rwy’n cofio chwilio am ddarnau o bapur sbar  i ysgrifennu sgript fach, yna ymarfer yn y caban pan fydden ni’n cael cyfnod rhydd cyn ei actio o flaen aelodau’r gwersyll. Ers hynny, rwyf wedi bod droeon yn y gwersyll ac mae’r plant wedi cael profiadau bendigedig yno bob tro.

Mae cystadlu yn yr Eisteddfod wedi dod yn rhan naturiol o batrwm yr ysgol erbyn hyn. Ym 1986 doedd yr ysgol ddim yn cystadlu. Dyna oedd y tro cyntaf i mi geisio hyfforddi criw o blant i gydadrodd er na chawson ni unrhyw lwyddiant. Y flwyddyn ganlynol, yn ogystal â’r cydadrodd roedd gennym barti canu. Parti bach a fu’n ymarfer amser cinio yn ystafell fyw Mrs Gwenlais Price ac roeddem yn hynod o ddiolchgar iddi am ei chymorth. Eto, nid oedd yr ymarferion yma wedi ennyn llawer o ddiddordeb ymhlith mwyafrif o blant yr ysgol.

Dyna pryd y cefais y syniad rhyfedd o hyfforddi criw o blant i wneud y ddawns disgo, er nad oedden ni erioed wedi gwneud dim byd tebyg o’r blaen! Mrs Ann Thomas yn gwnio dillad lliwgar, cerddoriaeth bop a bant â ni. Doedd neb yn cystadlu yn yr Eisteddfod Gylch a thrwodd â ni i’r Sir ar y cynnig cyntaf! Fe lwyddodd i ddangos fod yr Eisteddfod yn medru bod yn lle diddorol iawn!

Ers hynny, mae’r ysgol wedi cystadlu ym mhob math o gystadlaethau. Mae yna lu o athrawon, hyfforddwyr a rhieni wedi gwneud gwaith arbennig yn hyfforddi’r plant a’u paratoi ar gyfer yr Eisteddfod bob blwyddyn.

Yn naturiol yn ystod y blynyddoedd hyn rydym wedi bod ar sawl trip diddorol. Rhai blynyddoedd yn ôl erbyn hyn, mi wnaeth yr ysgol efeillio gydag ysgol yng Nghilfynydd. Roedd hynny yn bendant yn brofiad cofiadwy.  Plant Cilfynydd ddaeth yma gyntaf- ac roedd y plant wedi rhyfeddu o weld yr anifeiliaid ar y fferm yng Nghilycwm, gan ddal eu trwynau trwy gydol yr ymweliad!

Cafon ni dipyn o sioc ar ein taith yn ôl i Gilfynydd o weld rhesi a rhesi o dai ochr yn ochr â’i gilydd. Er fod plant y ddwy dref mor wahanol i’w gilydd, fe ddaethon nhw yn ffrindiau arbennig o dda.

Bu nifer o gyngherddau a chyflwyniadau bywiog a diddorol yn rhan o draddodiad yr ysgol ar hyd y blynyddoedd. Rwy’n cofio i ni fynd â chriw o blant i Fwyngloddiau Aur Dolaucothi i actio hanes y Rhufeiniad a fu yno. Dathlu daucanmlwyddiant marw William Williams Pantycelyn ym 1991 ac Aled Pantycelyn yn fachgen ifanc yn cael actio rhan Williams.  Criw o blant wedi gwisgo  fel gwenyn ar gyfer pasiant y plant yn Eisteddfod Bro Dinefwr,

Rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod yn yr ysgol yn fawr iawn. Rydw i wedi bod yn hynod o ffodus i gael cwmni criw o athrawon a chynorthwyr hwyliog ac mae wedi bod yn bleser cael eu cwmni ar hyd y blynyddoedd. Rydym wedi rhannu cyfnodau trist ac wedi cael gymaint o hwyl a sbri.

Rydw i wedi mwynhau yng nghwmni’r plant sydd wedi bod yn annwyl a brwdfrydig ac rwyf i wedi dod i nabod nifer o gymeriadau diddorol!  Yn ogystal â hynny rydw i wedi bod yn hynod o ffodus i gwrdd â rhieni caredig a chefnogol trwy gydol fy nghyfnod yma yn Ysgol Rhys Prichard.